O Deued dydd yr India i ben
O na ddôi dydd yr India i ben

(Erfyniad am lwyddiant yr efengyl)
O Deued dydd yr India i ben
I wel'd yr hwn fu ar y pren,
  A ninnau'n un, yn un â hwy,
  Yn canu am ei farwol glwy'.

Doed gogledd, de, a dwyrain bell,
I glywed y newyddion gwell;
  A thaened swn
      efengyl gras,
  Yn gylch oddeutu'r ddaear las.

Na fydded ardal cyn bo hir,
O'r dwyrain i'r gorllewin dir,
Na byddo'r iachawdwriaeth ddrud,
Yn llanw cyrrau rhai'n i gyd.

              - - - - -

O! na ddôi dydd yr India i ben
I wel'd yr Hwn fu ar y pren;
  A ninnau'n un, yn un â hwy,
  Yn canu am Ei farwol glwy'.

Boed Prydain Fawr yn fflam o dân
O gariad at ei Phrynwr glân;
  A holl ynysoedd pella'r byd
  Yn boddi mewn caniadau i gyd.

Amen, Amen - boed môr a thir
Mewn perffaith hedd, mewn cariad pur,
  Heb ganddynt bleser o un rhyw
  Ond caru'r Iesu mawr a'n Duw.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Brynmenai (alaw Ellmynig)
Cromer (J A Lloyd 1815-74)
Cwmystwyth (alaw eglwysig)
Derby (<1829)
Hursley (Peter Ritter 1760-1846)
Melancthon (Hans Kugelmann c.1495-1542)
Whitburn (Henry Baker 1835-1910)

gwelir:
  Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn
  De'wch addewidion de'wch yn awr
  Fe dalodd Iesu'r dyled drud
  Newyddion braf a ddaeth i'n bro
  Un llais un swn un enw pur
  Y rhai bwrcasodd gwaed y nef

(Entreaty for the success of the gospel)
O may the day of India come to pass
To see him who died on the tree,
  And we one, as one with them,
  Singing about his mortal wound.

Let North come, South, and far East,
To hear the better news;
  And may the sound
      of the gospel of grace spread,
  Round about the blue-green earth.

Let there be no region before long,
From the East to the West land,
  Where the precious salvation is not,
  Flooding the corners of them all.

                 - - - - -

O that India's day would come
To see Him who died on the tree;
  With us as one, as one with them,
  Singing about His mortal wound.

May Great Britain be a flame of the fire
Of love towards her holy Redeemer;
  And all the world's most distant islands
  Drown all in songs.

Amen, Amen - let sea and land come
In perfect peace, in pure love,
  Without pleasure of any kind
  But loving great Jesus and our God.
tr. 2016,18 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~